A A A

Rydym yn angerddol am y Gymraeg ac yn cydnabod pwysigrwydd diwylliant a threftadaeth unigryw ein gwlad. Mae’n bleser gennym weithredu’n ddwyieithog ym mhob maes o’n gwaith ac rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein defnydd o’r iaith.

Gallwch:

  • Siarad Cymraeg â staff sydd yn gwisgo neu’n arddangos bathodyn y Gymraeg.
  • Cysylltu â ni yn Gymraeg dros y ffôn, trwy lythyr, ar e-bost neu ar y cyfryngau cymdeithasol. Byddwn yn parchu eich dewis ac yn ymateb yn eich iaith ddewisol.

Byddwn:

  • Yn datblygu ac yn hyrwyddo ymgyrchoedd, hyfforddiant a digwyddiadau yn ddwyieithog mewn print ac ar-lein.
  • Yn annog ac yn cynorthwyo ein staff i ddefnyddio a gwella eu sgiliau Cymraeg.
  • Yn gwerthfawrogi sgiliau Cymraeg wrth recriwtio aelodau newydd o staff.
  • Yn gwrando ac yn agored i adborth os oes unrhyw un yn teimlo nad ydym yn bodloni ein hymrwymiad i’r Gymraeg.

Cysylltwch â'r tîm

Er ein bod yn ymdrechu i gyrraedd y safonau uchaf posibl, rydym bob amser yn dysgu ac yn gwella.  Mae croeso i chi gysylltu os oes gennych unrhyw bryderon am ein defnydd o’r Gymraeg.