A A A

Ein Daear; Ein Dyfodol

27/06/2024 - 02/07/2024

Across Wales

Ein Daear; Ein Dyfodol   

Cynhadledd i bobl ifanc Blynyddoedd 10-13 sy’n angerddol o blaid creu dyfodol cynaliadwy ac arwain y newid yn eu hysgol.   

 

Ydych chi’n barod i wneud rhywbeth mwy na siarad yn unig am yr hinsawdd? Hoffai Eco-Sgolion Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Bangor eich gwahodd i’r Gynhadledd Ein Daear; Ein Dyfodol.”   

Bydd y gynhadledd yn cael ei  hysbrydoli gan bobl ifanc o bob cwr o Gymru sy’n frwd dros newid, er mwyn ysbrydoli a grymuso cyfranogwyr i greu newid cynaliadwy yn eu hysgol. Bydd dysgwyr hefyd yn cael cipolwg gwerthfawr ar gyfleoedd gwaith sy’n dod i’r amlwg mewn swyddi gwyrdd.   

Bydd y siaradwyr, ynghyd â’r gweithdai, yn arfogi dysgwyr â’r offer, y syniadau a’r hyder i gyflawni newid yn eu hysgol a’u cymuned.   

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o rwydwaith ehangach o gynadleddau sy’n cael eu cynnal ledled Cymru a Lloegr o dan y thema Ein Daear; Ein Dyfodol.   

   

Bydd y bore yn canolbwyntio ar 5 thema:  

  1. Addysg Hinsawdd Ystyrlon ar draws pob Maes Dysgu a phob grŵp blwyddyn  
  1. Mynediad at natur i bawb drwy ddysgu yn yr awyr agored a dysgu drwy brofiad   
  1. Cysylltu â bwyd a gwneud ein ffreutur yn fwy lleol a chynaliadwy  
  1. Dod yn ‘ysgol gylchol’ i leihau ein hôl troed o ran yr hyn rydym yn ei ddefnyddio a’r gwastraff rydym yn ei gynhyrchu  
  1. Teithio yn fwy cynaliadwy, cael gwared ar bethau sy’n rhwystro teithio llesol a defnyddio cludiant cyhoeddus  

 

Yn y prynhawn, rydym yn ystyried ‘swyddi gwyrdd’ – beth ydyn nhw a pha fath o ddewisiadau gyrfaoedd allai ein harwain at ‘swydd werdd’? Bydd hyn yn cynnwys digwyddiad panel gyda siaradwyr o ystod eang o sectorau.   

 

Rydym yn annog ysgolion i ddod â hyd at 15 o ddysgwyr i’r digwyddiad.   

Bydd manylion cadarnhau yn dilyn gan gynnwys gwybodaeth am gyllid i helpu i dalu costau cludiant.   

Mae’r gynhadledd hon yn rhad ac am ddim diolch i nawdd a sicrhawyd gan United Learning a chefnogaeth gan brifysgolion Abertawe a Bangor.   

Bydd hwn yn ddigwyddiad dwyieithog.