A A A

Awgrymiadau a Syniadau ar gyfer Cyfryngau Cymdeithasol

04/12/2024 @ 17:00 - 18:00

Ar-lein

Yn y weminar hon, fe wnaeth ein Tîm Marchnata a Chyfathrebu gynnwys hanfodion llwyfannau poblogaidd fel Facebook, Instagram ac X (Twitter yn flaenorol) a Bluesky.

Daliwch i fyny i gael syniadau ac awgrymiadau ar gyfer creu cynnwys cymhellol, datblygu cymuned a mesur eich canlyniadau.

Wedi ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, roedd hon yn rhan o gyfres o weminarau am ddim wedi eu datblygu’n benodol ar gyfer grwpiau a gwirfoddolwyr cymunedol amgylcheddol yng Nghymru. Cyflwynwyd y sesiwn yn Gymraeg ac yn Saesneg ar y cyd. Gallwch wylio’r recordiad Saesneg yma.

Ymweld â’r Hyb Cymorth i Wirfoddolwyr

Wedi ei gynllunio i helpu gwirfoddolwyr i wneud eu gweithgareddau yn ddiogel ac yn gynaliadwy, mae ein Hyb Cymorth i Wirfoddolwyr yn llawn deunyddiau, dolenni a chyngor defnyddiol.

Mynd i’r hyb

Bod yn rhan o Gymuned Cadwch Gymru’n Daclus

Ymunwch â’n grŵp Facebook i rannu syniadau ac arfer gorau gydag arwyr gwirfoddoli eraill!

Dod yn aelod