Yn rhedeg o 9.30 – 10.15 bob bore dydd Mawrth am bedair wythnos, bydd y sesiynau rhyngweithiol byw hyn i ddisgyblion yn cyflwyno’r cysyniad o Economi Gylchol, neu edrych y tu hwnt i ailgylchu. Byddwn ni’n ymchwilio i pam nad ailgylchu yw’r ateb i’n defnydd torfol, faint o bethau y gellir eu trwsio, yr angen am ddyluniadau newydd arloesol a sut y gallwn ni greu ffordd fwy cylchol o fyw gydag ysbrydoliaeth gan ysgolion ac arloeswyr ledled Cymru a thu hwnt.
Bydd pob gwers fyw yn cynnwys gweithgareddau hwyliog, rhyngweithiol a chyfweliad byw pan mae’r disgyblion yn cael cyfle i holi’r arbenigwyr! Bydd adnoddau i gefnogi dysgu pellach yn ystod yr wythnos hefyd.
Byddwn yn cynnal sesiynau yn Gymraeg a Saesneg felly dewiswch yr iaith fyddai orau gennych wrth archebu.
Yn addas ar gyfer disgyblion blwyddyn 2 i flwyddyn 6.
Nodwch nad yw cofrestru yn creu dolen ymuno yn awtomatig, byddwch yn derbyn hwn gan un o’n staff Addysg gyda gwybodaeth bellach ar ôl archebu.
Please check email address is identical