Newid yn yr Hinsawdd a COP 29 – gweithdai rhithiol i ddisgyblion Eco-Sgolion
Ymunwch â ni am ddwy wers fyw i ddarganfod mwy am newid hinsawdd, datrysiadau arloesol o bob rhan o’r Byd, a beth yn union sy’n digwydd pan fydd arweinwyr y byd yn cyfarfod ar gyfer COP29.
Sesiwn 1 – COP29
Mae COP29 yn digwydd rhwng 11 a 22 Tachwedd, lle mae arweinwyr y byd yn dod at ei gilydd i drafod y newid yn yr hinsawdd.
Ond beth yn union yw Newid Hinsawdd ac a yw ein harweinwyr yn gwneud digon?
Ymunwch â’n sesiwn ryngweithiol wrth i ni gyflwyno disgyblion i un o’r trafodaethau byd-eang pwysicaf sy’n digwydd a darganfod sut y gallwn ni i gyd hefyd fod yn rhan werthfawr o’r datrysiad.
Sesiwn 2 – Arloesedd, Natur a Grymuso.
Yn y sesiwn hon byddwn yn edrych ar sut mae natur yn darparu llawer o’r atebion i ddatrys yr Argyfwng Hinsawdd ac adfer bioamrywiaeth.
Byddwn hefyd yn darganfod sut mae datrysiadau arloesol yn cael eu datblygu yn fyd-eang ac yn lleol a sut i rymuso eich disgyblion i ddeall beth sy’n digwydd a’u hysbrydoli i ddefnyddio eu llais i wneud gwahaniaeth.
Addas ar gyfer dosbarthiadau blwyddyn 4 i flwyddyn 6.