Ymunwch â ni am wythnos gyfan o wersi rhithwir byw yn ymwneud â phwnc hollbwysig Newid Hinsawdd.
Yn ystod Wythnos Hinsawdd mae thema unigryw bob dydd i’w harchwilio. Paratowch am gyfres o sesiynau difyr a fydd yn cael eu cyflwyno gan ein swyddogion addysg gwych gyda siaradwyr gwadd cyffrous. Dechreuwch eich diwrnod gyda sesiwn deinameg a rhyngweithiol!
Mae’n ddelfrydol ar gyfer dysgwyr CA2 a bydd pwnc cyffrous yn cael ei gyflwyno bob dydd i herio’ch disgyblion a datblygu eu dysgu gydag adnoddau pwrpasol. Wrth i ni nesáu at COP28, cynhadledd newid hinsawdd y cenhedloedd unedig, bydd y sesiynau hyn yn cefnogi disgyblion i ddod yn ddinasyddion moesegol gwybodus sy’n ymwybodol o faterion newid hinsawdd a phwysigrwydd COP28.
Edrychwch ar yr wybodaeth isod am fwy o fanylion am bob sesiwn. Gallwch chi gofrestru am gymaint o sesiynau ac y dymunwch!
Bydd pob sesiwn yn cael ei gyflwyno drwy Microsoft Teams. Bydd dolen i’r cyfarfod yn cael ei hanfon cyn y sesiwn i’r unigolion sy’n cofrestru gan ddefnyddio’r ffurflen isod. Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld yno.
Dydd Mawrth 14 Tachwedd
Beth yw Newid Hinsawdd? Beth yw Cop28?
Led by the Eco-Schools Wales team, this session beckons young learners to embark on a journey of discovery. Together, we’ll unravel the mysteries of climate change, understanding its significance and the imperative need for action.
Throughout the session, pupils will delve into the world of COP28, gaining insights into the key themes the conference is set to address this year.
But that’s not all – we’re igniting the spark of creativity! Students will have the chance to put their inventive minds to the test, crafting captivating displays that illustrate the changing global temperatures.
Dydd Mercher 15 Tachwedd
Ditectifs Datgoedwigo gyda Maint Cymru
Mae Maint Cymru ar genhadaeth i addysgu pobl ifainc am fforestydd trofannol, gan bwysleisio eu pwysigrwydd ac ysbrydoli gweithredu am eu cadwraeth.
Mae Maint Cymru ac Eco-Sgolion Cymru yn gwahodd disgyblion i ddechrau ar daith gyffrous i ddysgu am y fioamrywiaeth anhygoel sy’n byw mewn fforestydd trofannol. Byddwn yn ymgolli ein hunain ym mywydau’r unigolion sy’n byw yn y tirweddau hyfryd hyn gan daflu goleuni ar fater brys newid hinsawdd. Yn ogystal, byddwn yn pwysleisio’r rôl hanfodol mae fforestydd yn ei chwarae wrth fynd i’r afael â’r her fyd-eang enbyd hon.
Dydd Iau 16 Tachwedd
Newid Hinsawdd a Phŵer Pŵ gyda Dŵr Cymru
Mae ein partneriaid o Dŵr Cymru yn cydweithio â ni am sesiwn sy’n anelu at ddyfnhau dealltwriaeth myfyrwyr o rôl hanfodol dŵr wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd. Mae’r sesiwn difyr hwn yn cael ei rannu’n ddwy ran. I ddechrau, bydd athrawon wedi’u secondio Dŵr Cymru yn arwain taith rithwir hudolus, gan arwain disgyblion drwy broses trin dŵr gwastraff.
Byddan nhw’n ymdrin â phopeth o’r gwastraff yn cyrraedd y safle i’w trawsnewidiad drwy Dreuliad Anaerobig Uwch. Mae’r sesiwn hwn yn cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru gan gynnig cynnwys gweledol, rhyngweithiol a hawdd i’w cofio ar gyfer disgyblion. Yn yr ail hanner, bydd y disgyblion yn cael eu herio i ddylunio eu cynllun gweithredu eu hunain sydd wedi’i anelu at ystyried yr egni sy’n cael ei defnyddio pan fydd y tap yn cael ei droi ymlaen a rôl arwyddocaol mae cadwraeth ddŵr yn ei chwarae wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Mae newidiadau bach mewn arferion dyddiol yn gallu sbarduno newidiadau sylweddol cadarnhaol. Ymunwch â ni yn y sesiwn trawsnewidiol a gadewch i ni wneud gwahaniaeth un diferyn ar y tro.
Dydd Gwener 17 Tachwedd
Atebion Byd-eang: Dathlu sut mae pobl yn mynd i’r afael ag argyfyngau’r hinsawdd a bioamrywiaeth.
Mae meddwl am newid hinsawdd yn gallu bod yn dasg lethol, ond mae’r un mor bwysig i gydnabod a llongyfarch ymdrechion hynod unigolion, ysgolion a chymunedau dros y byd.
Yn y sesiwn hwn, gadewch i ni ddod at ein gilydd i ddathlu atebion posibl y dyfodol a dysgu am yr arloesiadau gwefreiddiol sy’n digwydd yma yng Nghymru. Mae’r syniadau hyn ar fin cael effaith ar ein brwydr gyfunol yn erbyn newid hinsawdd. Ymunwch â ni wrth i ni ymchwilio a dathlu’r camau addawol tuag at ddyfodol cynaliadwy.