Mae sawl ffordd o ariannu grŵp cymunedol. Os byddwch yn chwilio ar-lein, gall y syniadau a’r cyfleoedd eich llethu.
Cynlluniwyd y weminar hon i ddod â chyngor ac adnoddau hanfodol ynghyd ac i ysbrydoli grwpiau cymunedol sydd eisiau rhoi hwb i’w hymdrechion codi arian.
Ymunodd FAN Alliance a Grŵp Afonydd Caerdydd â ni, gan rannu ffyrdd llwyddiannus y maent wedi creu incwm trwy eu gweithgareddau.
Wedi ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, roedd hon yn rhan o gyfres o weminarau am ddim wedi eu datblygu’n benodol ar gyfer grwpiau a gwirfoddolwyr cymunedol amgylcheddol yng Nghymru. Cafodd ei chyflwyno yn Saesneg, ond mae trawsgrifiad llawn ar gael yn Gymraeg ar gais.
Wedi ei gynllunio i helpu gwirfoddolwyr i wneud eu gweithgareddau yn ddiogel ac yn gynaliadwy, mae ein Hyb Cymorth i Wirfoddolwyr yn llawn deunyddiau, dolenni a chyngor defnyddiol.
Ymunwch â’n grŵp Facebook i rannu syniadau ac arfer gorau gydag arwyr gwirfoddoli eraill!
Eisiau archebu lle ar sesiwn fyw? Ewch i’n tudalen ddigwyddiadau i ganfod beth sy’n dod i fyny.