A A A

Croeso i Eco-Sgolion – Uwchradd

11/10/2023 @

Ar-lein

Paratowch, eco-arweinwyr y dyfodol!

Bydd y digwyddiad hwn yn darparu canllaw cynhwysfawr i hybu’r rhaglen Eco-Sgolion yn eich ysgolion. Os ydych chi’n rhan o dîm yr eco-bwyllgor yn eich ysgol, bydd y sesiynau hyn yn berffaith i chi!

Bydd y sesiynau a fyddai’n cael eu cynnal drwy’r flwyddyn yn helpu, ysbrydoli a’ch cefnogi wrth i chi creu newid cadarnhaol a symud ymlaen i’ch gwobr nesaf. Bydd yn gyfle gwych i ofyn unrhyw gwestiynau a fyddai gennych neu ddarganfod cyngor ar sut i gael llwyddiant.

Nid yw hyn amdanoch chi a’ch ysgol yn unig. Mae’n ymwneud â chysylltu ag Eco-bwyllgorau o bob cwr o Gymru er mwyn cydweithio a rhannu syniadau gwych gyda’ch gilydd.

Rydym gyda’n gilydd ar y daith i ennill (a chwifio’n falch) Baner Werdd Eco-sgolion sydd wedi’i chydnabod yn rhyngwladol a dod yn ddinasyddion moesegol gwybodus Cymru a’r Byd.