A A A

Gweithdy Eco-Bwyllgor: Ein Llais, Ein Hysgol, Ein Byd

11/10/2024 - 05/06/2025

Ar-lein

Mae’r digwyddiad hwn yn croesawu dysgwyr i’w rôl newydd a hanfodol o fod yn rhan o Eco-Bwyllgor.

Mae’r Eco-Bwyllgor yn grŵp pwysig o ddisgyblion. Maen nhw’n gwrando ar bawb yn yr ysgol ac yn gweithio gyda’i gilydd i ddechrau syniadau newydd, cymryd camau gweithredu a chydweithio i gyflawni eu nodau.

Bydd y sesiwn hwn helpu i sbarduno creadigrwydd ac ateb unrhyw gwestiynau y bydd gan ddysgwyr newydd am y cynllun.

Yn ystod y gweithdy bydd aelodau’r pwyllgor yn dysgu sut i greu effaith fawr yn eu hysgolion. Byddan nhw hefyd yn dysgu o gyflawniadau ysgolion eraill yng Nghymru. Bydd y disgyblion yn cael llwyfan i rannu eu syniadau eu hunain yn ystod y sesiwn.

Mae’r pynciau wedi’u rhannu’n dri sesiwn hamddenol a byddan nhw’n cael eu cynnal drwy’r flwyddyn.

  • Sesiwn Un, 11 Hydref 2024: Sut ydych chi’n gallu cynllunio i wneud gwahaniaeth mawr a phwy yw’r bobl sy’n gallu eich helpu ar hyd y daith? Mae’r sesiwn hwn yn cyflwyno disgyblion i’r rhaglen Eco-Sgolion a rôl yr eco-bwyllgor yn yr ysgol ac yn y gymuned.
  • Sesiwn Dau, 7 Chwefror 2025: Monitro a gwerthuso eich camau gweithredu. Yn ystod y sesiwn mae disgyblion yn gallu dysgu am ddiwrnodau gweithredu rhyngwladol a chael ysbrydoliaeth gan Eco-Sgolion eraill. Mae’r wers yn anelu at annog disgyblion i gynllunio ar gyfer tymor y Gwanwyn a thymor yr Haf.
  • Sesiwn tri, 5 Mehefin 2025: Mae’r sesiwn hwn yn annog eco-bwyllgorau i fyfyrio ar y gwaith gwych maen nhw wedi’i wneud dros y flwyddyn a dod at ei gilydd i ddysgu am yr hyn mae eco-bwyllgorau dros y byd wedi’u cyflawni hefyd.

Bydd pob sesiwn yn cael ei gynnal rhwng 2:00 – 2:20pm. Mae disgyblion yn gallu cofrestru ar gyfer un, dau neu dri digwyddiad gan ddefnyddio’r ffurflen isod.