Creu pwll yn eich gardd yw un o’r pethau mwyaf gwerth chweil y gallwch ei wneud i gefnogi natur a bywyd gwyllt.
Wrth gwrs, does dim rhaid i byllau fod yn enfawr. Gall hyd yn oed pot planhigyn neu bowlen golchi llestri wedi eu hailbwrpasu wneud gwahaniaeth i bryfed, amffibiaid, adar a mamaliaid eraill.
Archebwch le ar y weminar unigryw hon sydd am ddim i ddysgu am fuddion pyllau ar gyfer bioamrywiaeth a bywyd gwyllt. Bydd Rhodri Irranca-Davies o Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru yn ymuno â ni. Bydd yn sôn am enghreifftiau o byllau gwahanol, a’r ffyrdd gorau o’u cynnal.
Cynhelir y sesiwn ar-lein, wedi ei chyflwyno yn Saesneg, rhwng 17.00 a 18.00 ar ddydd Mercher 11 Medi.
Archebwch le trwy lenwi’r ffurflen gofrestru isod. Byddwch wedyn yn cael ebost cadarnhau gyda dolen i’r weminar. Edrychwch yn eich ffolderi sothach neu sbam os nad ydych wedi derbyn hwn. Os oes unrhyw broblemau, cysylltwch a’r tîm. Ebostiwch nature@keepwalestidy.cymru
Mae Cyflwyniad i Byllau yn rhan o gyfres newydd o weminarau natur i annog unigolion a chymunedau i ymddiddori mewn natur. Os ydych yn grŵp neu’n sefydliad cymunedol ac eisiau creu gardd hardd lle gall natur ffynnu, gwnewch gais am becyn AM DDIM o’n cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.