A A A

Cynnal a Chadw Offer Gardd

18/12/2024 @ 12:00 - 13:00

Ar-lein

Mae offer gardd wedi eu dylunio i bara am flynyddoedd lawer, ond mae’n rhaid gofalu amdanynt a’u cynnal a’u cadw’n rheoliadd, fel arall byddant yn treulio!

Bydd cynnal a chadw eich offer gardd yn rheolaidd yn rhoi blynyddoedd lawer o fywyd iddynt ac yn gwneud eich tasgau garddio yn haws.

Dewch i ni eich paratoi ar gyfer eich tasg nesaf yn yr ardd, cadwch le ar y weminar hon sydd am ddim i ddysgu am gynnal a chadw offer gardd.

Byddwch yn clywed gan Thomas Board, ein Swyddog Prosiect ar gyfer Torfaen, fydd yn rhoi cyngor defnyddiol ar ofalu am eich offer gardd. Bydd Thomas hefyd yn sôn am Tools For Self Reliance Cymru, elusen sydd wedi ymrwymo i adnewyddu ac ailgylchu offer sydd wedi cael eu rhoi, a’u hanfon i gymunedau yn Affrica.

Peidiwch â cholli’r weminar unigryw hon. Dewch i gael atebion i’ch cwestiynau. Cyflwynir y sesiwn ar-lein yn Saesneg, rhwng 12.00 a 13.00 ddydd Mercher 18 Rhagfyr. Archebwch le trwy lenwi’r ffurflen gofrestru isod. Byddwch wedyn yn cael ebost cadarnhau gyda dolen i’r weminar. Edrychwch yn eich ffolderi sothach neu sbam os nad ydych wedi derbyn hwn. Os oes unrhyw broblemau, cysylltwch a’r tîm. Ebostiwch nature@keepwalestidy.cymru

Mae Cynnal a Chadw Offer Gardd yn rhan o gyfres newydd o weminarau natur a ariennir gan Lywodraeth Cymru i annog unigolion a chymunedau i fod yn rhan o natur.