A A A

Cysylltu â’r cwricwlwm a chyflawni dull ysgol gyfan

08/06/2022 - 15/06/2022

Ar-lein

Darperir ein holl gyrsiau yn rhad ac am ddim ac fe’u hwylusir gan staff profiadol Cadwch Cymru Daclus.

Cynhelir pob hyfforddiant rhithwir trwy Microsoft Teams. Gallwch ymuno trwy borwr gwe os nad yw Teams ar gael ar eich dyfais.

Mae’r sesiwn hyfforddi rithwir awr o hyd hon wedi’i thargedi at gydlynwyr sy’n deall y rhaglen yn barod ond efallai y maent yn ei chael hi’n anodd cyflawni dull ysgol gyfan neu’n parhau i redeg y rhaglen wrth weithio mewn swigod.

Mae’r sesiwn hyfforddi newydd yma yn ymchwilio i’r gwaith o integreiddio’r rhaglen Eco-Sgolion i’r cwricwlwm newydd, er mwyn:

• Annog ysgolion i integreiddio’r broses Eco-Sgolion i ethos yr ysgol.
• Amlygu a rhannu arfer da yn cysylltu Eco-Sgolion â’r cwricwlwm newydd.
• Annog ymagwedd ysgol gyfan tuag at y broses trwy ddatblygu’r cwricwlwm,

Beth rydyn ni'n ei wneud gyda’ch gwybodaeth