A A A

Digwyddiad glanhau Afon Dyfrdwy: Gwanwyn Glân Cymru

29/03/2022 @ 10:00 - 12:00

20 o 20 tocynnau ar gael

Ymunwch â ni ochr yn ochr ag Ymddiriedolaeth Dyfrdwy i lanhau glan ogleddol yr Afon Dyfrdwy.

Byddwn yn dechrau glanhau mewn dau grŵp ar draws ffin Cymru a Lloegr. Wedi’r cyfan, nid yw sbwriel yn gwybod unrhyw ffiniau!

Cyfarfod yn Stadiwm Deva, CH1 411T am 9.45.

///late.stay.headed

Mae’n rhaid i bob cyfranogwr gofrestru trwy wefan y Welsh Dee Trust Cross-Border Clean-Up Registration, Tue 29 Mar 2022 at 10:00 | Eventbrite

Fe welwch ein bod wedi ychwanegu cyfeiriad what3words i wybodaeth y digwyddiad. Bydd hyn o gymorth i chi ddod o hyd i’r man cyfarfod ar gyfer y digwyddiad glanhau. Ewch i www.what3words.com a rhowch y cyfuniad unigryw o dri gair.

Wrth gofrestru ar gyfer digwyddiad Gwanwyn Glân Cymru, rydych yn cytuno i ddilyn canllawiau iechyd a diogelwch Cadwch Gymru’n Daclus sydd ar gael yma: https://keepwalestidy.cymru/caru-cymru/spring-clean-cymru-2022/planning-your-clean-up/

Mae’n rhaid i chi hysbysu Cadwch Gymru’n Daclus os oes gennych unrhyw broblemau iechyd sylfaenol a allai effeithio arnoch yn cymryd rhan yn y gweithgaredd. Os nad ydych yn gallu mynychu bellach, rhowch wybod i ni er mwyn i ni allu rhoi eich lle i rywun arall.

PEIDIWCH â mynychu’r digwyddiad glanhau os ydych yn teimlo’n anhwylus neu os ydych wedi cael prawf positif ar gyfer COVID-19.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â Wendy Jones yn wendy.jones@keepwalestidy.cymru neu yn springclean@keepwalestidy.cymru

Ariennir y prosiect Welsh Dee Trust gan Gronfa Her Adferiad Gwyrdd y Llywodraeth. Datblygwyd y gronfa gan Defra a’i Chyrff Hyd Braich. Mae’n cael ei gyflwyno gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Natural England, Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Comisiwn Coedwigaeth.

Beth rydyn ni'n ei wneud gyda’ch gwybodaeth