A A A

Digwyddiad Glanhau Bae Abertawe: Gwanwyn Glân Cymru

03/04/2022 @ 11:00 - 13:00

o 50 tocynnau ar gael

Fel rhan o’n hymgyrch Gwanwyn Glân Cymru, rydym yn annog pobl brwdfrydig am godi sbwriel i gymryd rhan yn un o’n digwyddiadau awyr agored ar hyd Bae Abertawe.

Bydd gofyn i’r rhai sy’n cymryd rhan gwrdd yn Blackpill ar Heol y Mwmbwls, y tu ôl i Gaffi Junction, drws nesaf i Ganolfan Bywyd Gwyllt Blackpill o 11.00-1.00 ///island.chill.urgent

Byddwn wrth law gydag offer codi sbwriel i wirfoddolwyr. Dewch i ymuno â ni, mae croeso i bawb.

Gyda’n gilydd, rydym yn annog pawb i fynd tu allan, codi sbwriel a helpu i gadw ein hamgylchedd yn lân, mae’r hyn sy’n dda i’n hamgylchedd yn dda i’n hiechyd meddwl a chorfforol hefyd.

Mae’n rhaid i bob cyfranogwr gofrestru ar gyfer y digwyddiad isod. Byddwch yn cael ebost cadarnhau unwaith y byddwch wedi cofrestru ar gyfer y digwyddiad. Dewch â’r ebost cadarnhau yma gyda chi ar ddiwrnod y digwyddiad. Bydd niferoedd y tocynnau yn gyfyngedig yn ôl y digwyddiad.

Fe welwch ein bod wedi ychwanegu cyfeiriad what3words i wybodaeth y digwyddiad. Bydd hyn o gymorth i chi ddod o hyd i’r man cyfarfod ar gyfer y digwyddiad glanhau. Ewch i www.what3words.com a rhowch y cyfuniad unigryw o dri gair.

Wrth gofrestru ar gyfer digwyddiad Gwanwyn Glân Cymru, rydych yn cytuno i ddilyn canllawiau iechyd a diogelwch Cadwch Gymru’n Daclus sydd ar gael yma: https://keepwalestidy.cymru/caru-cymru/spring-clean-cymru-2022/planning-your-clean-up/

Mae’n rhaid i chi hysbysu Cadwch Gymru’n Daclus os oes gennych unrhyw broblemau iechyd sylfaenol a allai effeithio arnoch yn cymryd rhan yn y gweithgaredd. Os nad ydych yn gallu mynychu bellach, rhowch wybod i ni er mwyn i ni allu rhoi eich lle i rywun arall.

PEIDIWCH â mynychu’r digwyddiad glanhau os ydych yn teimlo’n anhwylus neu os ydych wedi cael prawf positif ar gyfer COVID-19.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â Phil Budd yn phil.budd@keepwalestidy.cymru neu yn springclean@keepwalestidy.cymru

Beth rydyn ni'n ei wneud gyda’ch gwybodaeth