Yn galw ar holl bobl Bae Cinmel! Ymunwch â ni ar gyfer digwyddiad glanhau’r traeth.
Lefel ffitrwydd: heriol
Dewch i weld golygfeydd anhygoel, cymryd rhan yn ein hymgyrch Gwanwyn Glân Cymru a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar garreg eich drws.
Dewch i wneud gwahaniaeth mawr ar eich stepen drws a gadael y traeth yn edrych yn ddilychwin mewn pryd ar gyfer y Gwanwyn.
Mae Gwanwyn Glân Cymru hefyd yn rhan o Gwanwyn Glân Prydain Fawr eleni. Gofynnir i wirfoddolwyr wneud addewid ynghylch y bagiau y byddant yn eu casglu a’r munudau y byddant yn eu treulio yn glanhau eu hardal leol.
Darperir yr holl gyfarpar ar eich cyfer. Yr unig beth y mae angen i chi ddod gyda chi yw esgidiau addas, dillad cynnes, menig a gwên fawr.
Bydd y niferoedd yn gyfyngedig felly cofiwch gofrestru trwy wefan y Gymdeithas Cadwraeth Forol: MCS x Keep Wales Tidy Spring Clean | Marine Conservation Society (mcsuk.org)
Credyd llûn: MCS / Billy Barraclough