Ymunwch â ni i lanhau Parc Tredelerch hyn ystod Glanhau Moroedd Cymru mewn partneriaeth a Grŵp Afonydd Caerdydd
Dyddiad: Dydd Sul 9 Hydref 2022
Lleoliad: Parc Tredelerch
I ddathlu Glanhau Moroedd Cymru, helpwch ni i lanhau Parc Tredelerch fis Medi.
Mae’n rhaid i’r holl gyfranogwyr gofrestru ar gyfer y digwyddiad isod. Byddwch yn derbyn ebost yn cadarnhau unwaith y byddwch chi wedi cofrestru ar gyfer y digwyddiad. Dewch â’r ebost cadarnhau gyda chi ar ddiwrnod y digwyddiad. Bydd nifer y tocynnau yn gyfyngedig yn ôl y digwyddiad.
Dewch â’ch offer codi sbwriel eich hun, neu gallwch fenthyg cyfarpar ar y diwrnod am y bydd popeth yn cael ei ddarparu. Bydd briff diogelwch ar ddechrau’r digwyddiad glanhau hefyd. Dewch â’ch menig garddio eich hun, esgidiau synhwyrol a gwisgwch ddillad sydd yn addas ar gyfer y tywydd.
Wrth gofrestru ar gyfer digwyddiad Glanhau Moroedd Cymru, rydych yn cytuno i ddilyn canllawiau iechyd a diogelwch Cadwch Gymru’n Daclus sydd ar gael yma: https://keepwalestidy.cymru/caru-cymru/spring-clean-cymru-2022/planning-your-clean-up/
Mae’n rhaid i chi hysbysu Cadwch Gymru’n Daclus os oes gennych unrhyw broblemau iechyd sylfaenol a allai effeithio arnoch yn cymryd rhan yn y gweithgaredd. Os nad ydych yn gallu mynychu bellach, rhowch wybod i ni er mwyn i ni allu rhoi eich lle i rywun arall.
PEIDIWCH â mynychu’r digwyddiad glanhau os ydych yn teimlo’n sâl neu os ydych wedi cael prawf positif am COVID-19.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â comms@keepwalestidy.cymru