Ymunwch â ni a chlwb rygbi Bridgend Ravens i lanhau Pen-y-bont ar Ogwr.
Cyfarfod yng Nghanolfan Fywyd Betws, Heol Betws, Betws, Pen-y-bont ar Ogwr CF32 8TB am 9.45.
///crisis.logo.baker
Mae’n rhaid i bob cyfranogwr gofrestru ar gyfer y digwyddiad isod. Byddwch yn cael ebost cadarnhau unwaith y byddwch wedi cofrestru ar gyfer y digwyddiad. Dewch â’r ebost cadarnhau yma gyda chi ar ddiwrnod y digwyddiad. Bydd niferoedd y tocynnau yn gyfyngedig yn ôl y digwyddiad.
Fe welwch ein bod wedi ychwanegu cyfeiriad what3words i wybodaeth y digwyddiad. Bydd hyn o gymorth i chi ddod o hyd i’r man cyfarfod ar gyfer y digwyddiad glanhau. Ewch i www.what3words.com a rhowch y cyfuniad unigryw o dri gair.
Wrth gofrestru ar gyfer digwyddiad Gwanwyn Glân Cymru, rydych yn cytuno i ddilyn canllawiau iechyd a diogelwch Cadwch Gymru’n Daclus sydd ar gael yma: https://keepwalestidy.cymru/caru-cymru/spring-clean-cymru-2022/planning-your-clean-up/
Mae’n rhaid i chi hysbysu Cadwch Gymru’n Daclus os oes gennych unrhyw broblemau iechyd sylfaenol a allai effeithio arnoch yn cymryd rhan yn y gweithgaredd. Os nad ydych yn gallu mynychu bellach, rhowch wybod i ni er mwyn i ni allu rhoi eich lle i rywun arall.
PEIDIWCH â mynychu’r digwyddiad glanhau os ydych yn teimlo’n anhwylus neu os ydych wedi cael prawf positif ar gyfer COVID-19.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â Brian Jones yn brian.jones@keepwalestidy.cymru neu yn springclean@keepwalestidy.cymru