A A A

Digwyddiad glanhau Pentref Hamdden Merthyr: Gwanwyn Glân Cymru

26/03/2022 @ 10:00 - 13:00

I ddathlu Gwanwyn Glân Cymru, helpwch ni i lanhau Pentref Hamdden Merthyr Tudful.

Cyfarfod tu ol ir Pentref Hamdden am 9.30.

///quarrel.wonderfully.intelligible

 

Mae’n rhaid i bob cyfranogwr gofrestru ar gyfer y digwyddiad isod. Byddwch yn cael ebost cadarnhau unwaith y byddwch wedi cofrestru ar gyfer y digwyddiad. Dewch â’r ebost cadarnhau yma gyda chi ar ddiwrnod y digwyddiad. Bydd niferoedd y tocynnau yn gyfyngedig yn ôl y digwyddiad.

Fe welwch ein bod wedi ychwanegu cyfeiriad what3words i wybodaeth y digwyddiad. Bydd hyn o gymorth i chi ddod o hyd i’r man cyfarfod ar gyfer y digwyddiad glanhau. Ewch i www.what3words.com a rhowch y cyfuniad unigryw o dri gair.

Wrth gofrestru ar gyfer digwyddiad Gwanwyn Glân Cymru, rydych yn cytuno i ddilyn canllawiau iechyd a diogelwch Cadwch Gymru’n Daclus sydd ar gael yma: https://keepwalestidy.cymru/caru-cymru/spring-clean-cymru-2022/planning-your-clean-up/

Mae’n rhaid i chi hysbysu Cadwch Gymru’n Daclus os oes gennych unrhyw broblemau iechyd sylfaenol a allai effeithio arnoch yn cymryd rhan yn y gweithgaredd. Os nad ydych yn gallu mynychu bellach, rhowch wybod i ni er mwyn i ni allu rhoi eich lle i rywun arall.

PEIDIWCH â mynychu’r digwyddiad glanhau os ydych yn teimlo’n anhwylus neu os ydych wedi cael prawf positif ar gyfer COVID-19.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â Andrew King yn Andrew.King@keepwalestidy.cymru neu yn springclean@keepwalestidy.cymru