Digwyddiad glanhau Pont Blackweir: Glanhau Moroedd Cymru

23/09/2022 @ - 11:45

Ymunwch â ni i lanhau pont Blackweir yn ystod Glanhau Moroedd Cymru mewn partneriaeth a Grŵp Afonydd Gaerdydd a Sefydliad y Merched Pontcanna

Dyddiad: Dydd Gwener 23 Medi 2022

Lleoliad: Pont Blackweir i gynnwys ardal Taith Taf, parc Bute a Chaeau Pontcanna

I ddathlu Glanhau Moroedd Cymru, helpwch ni i lanhau lannau ardal Pont Blackweir fis Medi.

Mae hwn yn un o 3 digwyddiad yn targedu pob afon ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Os na allwch wneud y dyddiad hwn , edrychwch ar y digwyddiadau eraill:

Mae’n rhaid i’r holl gyfranogwyr gofrestru ar gyfer y digwyddiad isod.  Byddwch yn derbyn ebost yn cadarnhau unwaith y byddwch chi wedi cofrestru ar gyfer y digwyddiad. Dewch â’r ebost cadarnhau gyda chi ar ddiwrnod y digwyddiad. Bydd nifer y tocynnau yn gyfyngedig yn ôl y digwyddiad.

Dewch â’ch offer codi sbwriel eich hun, neu gallwch fenthyg cyfarpar ar y diwrnod am y bydd popeth yn cael ei ddarparu. Bydd briff diogelwch ar ddechrau’r digwyddiad glanhau hefyd. Dewch â’ch menig garddio eich hun, esgidiau synhwyrol a gwisgwch ddillad sydd yn addas ar gyfer y tywydd.

Wrth gofrestru ar gyfer digwyddiad Glanhau Moroedd Cymru, rydych yn cytuno i ddilyn canllawiau iechyd a diogelwch Cadwch Gymru’n Daclus sydd ar gael yma: https://keepwalestidy.cymru/caru-cymru/spring-clean-cymru-2022/planning-your-clean-up/

Mae’n rhaid i chi hysbysu Cadwch Gymru’n Daclus os oes gennych unrhyw broblemau iechyd sylfaenol a allai effeithio arnoch yn cymryd rhan yn y gweithgaredd. Os nad ydych yn gallu mynychu bellach, rhowch wybod i ni er mwyn i ni allu rhoi eich lle i rywun arall.

PEIDIWCH â mynychu’r digwyddiad glanhau os ydych yn teimlo’n sâl neu os ydych wedi cael prawf positif am COVID-19.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â comms@keepwalestidy.cymru