Digwyddiad Glanhau Traeth Penrhos, Ynys Môn

23/10/2021 @ 10:00 - 12:00

Helpwch ni i ddathlu lansiad ein canolfan codi sbwriel yn Eco-barc Orthios. Helpwch i gadw Ynys Môn yn wyrdd a gwneud gwahaniaeth i’n hinsawdd drwy lanhau glan y môr Penrhos.

I ddathlu lansiad ein canolfan codi sbwriel yn Eco-Barc Orthios, rydyn ni’n chwilio am bobl egnïol i gasglu sbwriel a gweithredu ar yr hinsawdd drwy ymuno â ni i lanhau glan y môr Penrhos. Byddwn yno o 10yb ymlaen, a bydd aelodau o staff o’r Eco-Barc yno hefyd yn torchi eu llewys ac yn bwrw iddi i lanhau wrth symud ar hyd yr arfordir. Bwriad Orthios yw creu atebion cynaliadwy i brosesu gwastraff mewn ffordd sy’n gymdeithasol gyfrifol ac eco-ymwybodol, felly mae’n bartner perffaith. Bydd y ganolfan yn ei gwneud hi mor hawdd â phosibl i bobl godi sbwriel yn ardal Ynys Môn, gan ddarparu popeth y mae angen i chi ei fenthyg, o offer codi sbwriel, cylchoedd, festiau llachar i fagiau bin.

Byddwn ni’n cwrdd ym maes parcio traeth Penrhos am 10:00yb ddydd Sadwrn 23 Hydref. Byddwn yn darparu’r holl offer codi sbwriel, a bydd ein swyddog prosiect lleol Gareth Evans yn rhoi gwybodaeth gynhwysfawr i chi am iechyd a diogelwch cyn i chi ddechrau arni. Y cyfan sydd angen i chi ddod gyda chi yw esgidiau a dillad call, menig a digon o frwdfrydedd.

 

Beth rydyn ni'n ei wneud gyda’ch gwybodaeth
Yn ôl i ddigwyddiadau