A A A

Digwyddiad glanhau treetops woodland clean-up: Gwanwyn Glân Cymru?

10/04/2022 @ 11:00 - 13:00

30 o 30 tocynnau ar gael

Fel rhan o’n hymgyrch Gwanwyn Glân Cymru, ymunwch a ni i lanhau Treetops woodland yn Barry.

Bydd angen i’r rhai sy’n cymryd rhan gwrdd wrth Ogmore Place, CF63 1QQ am 10.45. ///asleep.summer.bleat

Byddwn wrth law gydag offer codi sbwriel a gwybodaeth diogelwch. Dewch draw mae groeso i bawb.

Yn ystod y gwanwyn eleni, rydym yn galw arnoch i’n helpu i ddiogelu’r amgylchedd am fod gweithredoedd bach ar eich stepen drws yn gwneud gwahaniaeth mawr.

Mae’n rhaid i bob cyfranogwr gofrestru ar gyfer y digwyddiad isod. Byddwch yn cael ebost cadarnhau unwaith y byddwch wedi cofrestru ar gyfer y digwyddiad. Dewch â’r ebost cadarnhau yma gyda chi ar ddiwrnod y digwyddiad. Bydd niferoedd y tocynnau yn gyfyngedig yn ôl y digwyddiad.

Fe welwch ein bod wedi ychwanegu cyfeiriad what3words i wybodaeth y digwyddiad. Bydd hyn o gymorth i chi ddod o hyd i’r man cyfarfod ar gyfer y digwyddiad glanhau. Ewch i www.what3words.com a rhowch y cyfuniad unigryw o dri gair.

Wrth gofrestru ar gyfer digwyddiad Gwanwyn Glân Cymru, rydych yn cytuno i ddilyn canllawiau iechyd a diogelwch Cadwch Gymru’n Daclus sydd ar gael yma: https://keepwalestidy.cymru/caru-cymru/spring-clean-cymru-2022/planning-your-clean-up/

Mae’n rhaid i chi hysbysu Cadwch Gymru’n Daclus os oes gennych unrhyw broblemau iechyd sylfaenol a allai effeithio arnoch yn cymryd rhan yn y gweithgaredd. Os nad ydych yn gallu mynychu bellach, rhowch wybod i ni er mwyn i ni allu rhoi eich lle i rywun arall.

PEIDIWCH â mynychu’r digwyddiad os ydych yn teimlo’n anhwylus neu os ydych wedi cael prawf positif ar gyfer COVID-19.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â Pam Bacon yn pam.bacon@keepwalestidy.cymru neu springclean@keepwalestidy.cymru

Beth rydyn ni'n ei wneud gyda’ch gwybodaeth