Ymunwch â ni i lansio ein Hyb Codi Sbwriel newydd yng Nghyngor Tref Penfro gyda sesiwn codi sbwriel trwy dref Penfro.
Y man cyfarfod yw adeilad Cyngor Tref Penfro am 10.00am ar ddydd Sadwrn 20 Tachwedd.
Byddwn yn darparu’r holl gyfarpar codi sbwriel fydd ei angen arnoch, a bydd Swyddog Prosiect lleol Sir Benfro, David Rowe, yn rhoi briff iechyd a diogelwch llawn cyn i chi ddechrau ar eich taith.
Y cyfan fydd angen i chi ddod gyda chi fydd esgidiau a dillad synhwyrol, menig a gwên fawr.