Ar 18 Tachwedd, rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni drwy’r dydd am gyfres o weithdai rhithiol 40 munud ar Newid yn yr Hinsawdd. Gallwch ddod â’ch dosbarth cyfan i’r gweithdai i ddarganfod mwy am atebion ar sail natur, creu economi gylchol, defnyddio ein lleisiau ar gyfer newid cadarnhaol a mwy.
Mae croeso i chi fynychu un neu ddwy sesiwn neu’r diwrnod cyfan a chofrestru gwahanol ddosbarthiadau neu grwpiau blwyddyn, pa un bynnag sy’n gweddu orau i chi.