A A A

Dysgu am Leoedd Lleol ar gyfer Natur

11/10/2023 - 17/09/2024

Ar-lein

Ymunwch â’n gweminar i ganfod sut gallwch gael eich dwylo ar un o’n pecynnau gardd am ddim.

Bob amser wedi pendroni beth sy’n cael ei gynnwys yn ein pecynnau gardd am ddim? Awyddus i wneud cais ond ddim yn siŵr a yw eich grŵp yn gymwys? Dyma eich cyfle i ddysgu am ein cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.   

Bydd un o’n cydlynwyr rhanbarthol yn rhoi arweiniad cam wrth gam ar y broses ymgeisio ac yn ateb unrhyw gwestiynau penodol sydd gennych am y cynllun 

Byddwch hefyd yn canfod sut mae grwpiau a sefydliadau eraill wedi elwa ar gymryd rhan yn Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.  

Mae’r weminar yn agored i bob grŵp cymunedol, ysgolion a sefydliadau cymunedol eraill.  

Archebwch le trwy lenwi’r ffurflen gofrestru isod a byddwn yn anfon gwahoddiad atoch i’r weminar.  

Methu dod i’r sesiynau isod ond eisiau gwybod mwy am Leoedd Lleol ar gyfer Natur? Cysylltwch trwy ebostio nature@keepwalestidy.cymru