A A A

Dysgu am Newid Ymddygiad

01/07/2024 @ 17:00 - 18:00

Mae buddion pellgyrhaeddol i amgylchedd lleol o ansawdd da, gan effeithio ar iechyd a lles, twf economaidd, ymddygiad gwrthgymdeithasol a hyd yn oed democratiaeth leol.

Yn anffodus, mae amgylchedd lleol o ansawdd gwael yn broblem wirioneddol a pharhaus i sawl cymuned yng Nghymru, diolch i leiafrif bach sydd ddim yn gweithredu’n gyfrifol.

Sut gallwn annog y bobl hyn i newid eu hymddygiad a gwneud y peth iawn? Daliwch i fyny â’n gweminar arbennig i gael yr ateb!

Arweiniwyd y sesiwn hon gan Jemma Bere, ein Rheolwr Polisi ac Ymchwil ac ymarferydd newid ymddygiad cymwys. Aeth Jemma drwy’r hyn yr ydym yn ei olygu wrth newid ymddygiad, amlinellodd y damcaniaethau allweddol, a rhoi hanes byr o’r ddisgyblaeth a’r moeseg sydd yn gysylltiedig. Arddangosodd hefyd ymgyrchoedd newid ymddygiad llwyddiannus ar draws y byd.

Wedi ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, roedd hon yn rhan o gyfres o weminarau am ddim wedi eu datblygu’n benodol ar gyfer grwpiau a gwirfoddolwyr cymunedol amgylcheddol yng Nghymru. Cafodd ei chyflwyno yn Saesneg, ond mae trawsgrifiad llawn ar gael yn Gymraeg ar gais.

Ymweld â’r Hyb Cymorth i Wirfoddolwyr

Wedi ei ddylunio i helpu gwirfoddolwyr i wneud eu gweithgareddau yn ddiogel ac yn gynaliadwy, mae ein Hyb Cymorth i Wirfoddolwyr yn llawn deunyddiau, dolenni a chyngor defnyddiol.

Mynd i’r hyb

Bod yn rhan o Gymuned Cadwch Gymru’n Daclus

Ymunwch â’n grŵp Facebook i rannu syniadau ac arfer gorau gydag arwyr gwirfoddoli eraill!

Dod yn aelod

 Eisiau archebu lle ar sesiwn fyw? Ewch i’n tudalen ddigwyddiadau i ganfod beth sy’n dod i fyny.