Dianc o’r dosbarth a chynnal eich gwersi yn yr awyr agored gyda gweithdy byw a rhyngweithiol Eco-Sgolion Cymru.
Coed Gwych
Dewch i ddarganfod rhyfeddodau tiroedd eich ysgol wrth i’ch disgyblion archwilio coed anhygoel a darganfod y rôl hanfodol maen nhw’n ei chwarae yn ein hamgylchedd. Ymgysylltwch eich dysgwyr mewn cyfres o weithgareddau diddorol sydd wedi’u cynllunio i feithrin eu dealltwriaeth a’u chwilfrydedd, hyd yn oed yng nghanol y gaeaf.
Mae dysgu yn yr awyr agored wedi’i brofi i wella ymgysylltiad, gwella creadigrwydd a bod o fudd i iechyd meddwl. Cofrestrwch heddiw i ddatgloi potensial llawn dysgu yn yr awyr agored i’ch dosbarth.
Bydd y sesiwn yn cael ei gynnal yn y bore drwy Microsoft Teams rhwng 9:30-10:15. Byddwch yn derbyn dolen i’r cyfarfod rhithwir yn agosach at ddyddiad y digwyddiad.
Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld chi yno!