A A A

Eco-Sgolion mewn Lleoliad Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

31/01/2025 @ 13:00 - 15:00

Ar-lein

Ymunwch â ni am sesiwn hyfforddi athrawon anffurfiol wrth i ni archwilio sut y gellir addasu’r rhaglen Eco-Sgolion i weithio mewn lleoliad Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).

Cael ysbrydoliaeth a mewnwelediad gan ysgolion y Faner Werdd ADY wrth iddynt rannu eu dulliau llwyddiannus o redeg y rhaglen Eco-Sgolion a rhannu straeon ysbrydoledig gan ddisgyblion.

Bydd y sesiwn hefyd yn caniatáu amser i drafod yr heriau a’r rhwystrau a’r gefnogaeth sydd eu hangen i oresgyn y rhain.

Bydd y sesiwn yn cael ei gynnal yn rhithwir drwy Microsoft Teams. Bydd dolen cyfarfod yn cael ei e-bostio at gyfranogwyr cyn y sesiwn. Bydd yr hyfforddiant hwn yn rhedeg trwy gyfrwng y Saesneg.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag Eco-Schools@KeepWalesTidy.cymru.