Ymunwch â ni ar 03 Hydref am wythnos o weithgareddau diddorol a gwersi byw.
Yn rhan o UNBOXED: Creativity in the UK, mae GALWAD yn stori aml-lwyfan ac amlieithog wedi’i gosod yn 2022 a 2052.
Bydd GALWAD, sy’n cyfuno dulliau confensiynol o adrodd straeon gydag ymgysylltu â’r gymuned a’r cyfryngau cymdeithasol, yn fath newydd o ddigwyddiad diwylliannol.
Beth fyddai’n digwydd pe baem, am wythnos yn unig, mewn cysylltiad â’n dyfodol. Daw’r digwyddiad epig hwn yn fyw ar y teledu a’r cyfryngau digidol ym mis Hydref. Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect yma. GALWAD | HAFAN
Bydd y gwersi a’r gweithgareddau byw yn annog ac yn ysbrydoli disgyblion i archwilio a chwestiynu beth fydd y dyfodol yn ei olygu i’w hysgolion, eu cymunedau a’u bywydau. Daw’r blaenoriaethau dysgu allweddol o’r nodau a amlinellir yng Nghanllawiau’r Cwricwlwm i Gymru, gyda’r gweithgareddau’n cynnwys:
Hefyd, cynhelir cyfweliadau byw a sesiynau holi ac ateb gyda gwestai arbennig bob dydd, a cheir cipolwg ar y dyfodol ar ddechrau pob gwers. Rydyn ni eisiau bywiogi eich disgyblion i feddwl yn gyflym ac yn gadarnhaol am y byd y byddan nhw’n tyfu ynddo. Wedi’r cyfan: os nad ydyn nhw’n gallu dychmygu dyfodol cadarnhaol, sut maen nhw’n mynd i greu un?
Bydd gwersi byw yn cael eu cynnal yn Gymraeg ac yn Saesneg rhwng 9.30 a 10.15 dydd Llun 03 Hydref a dydd Gwener 07 Hydref, addas ar gyfer disgyblion 7-11 oed. Bydd pob diwrnod yn cynnig ysbrydoliaeth, gweithgareddau difyr a chyfweliadau byw i’ch dosbarth cyfan ryngweithio â nhw. Yn dilyn pob gwers boreol, bydd detholiad o adnoddau cyffrous ar gael i gefnogi dysgu pellach ac ymchwilio i’r cysyniadau a godwyd.
Mae GALWAD yn rhan o UNBOXED: Creadigrwydd yn y Deyrnas Unedig, a gomisiynwyd ar y cyd â Chymru Greadigol, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.