A A A

Garddio i Drychfilod

13/03/2024 @ 17:00 - 18:00

Ar-lein

Mae’r rhan fwyaf o drychfilod yn hanfodol i fioamrywiaeth a’r ecosystem. Yn syml, ni fyddai’r bwyd yr ydym yn ei fwyta, yr adar yr ydym yn eu gweld, y blodau yr ydym yn eu harogli a mwmial y bywyd yr ydym yn ei glywed, yn bodoli heb drychfilod.

Pan mae’r rhan fwyaf o bobl yn meddwl am drychfilod, maent yn meddwl am ‘blâu gardd’, neu ‘bethau ffiaidd’. Mewn gwirionedd, mae trychfilod yn bwysig i bob ffurf ar fywyd ar y blaned, yn cynnwys bodau dynol. Hebddynt, ni fyddem yn gallu goroesi.

Ymunwch â ni ar gyfer y weminar hon sydd am ddim, i ddysgu am drychfilod, a’u rhan allweddol yn gwneud ein planed yn iach i bawb.

Bydd Liam Olds, Swyddog Cadwraeth Buglife Cymru, yn ymuno â ni ac yn sôn am bwysigrwydd trychfilod, a’u cyfraniad mawr i amgylchedd gwyrddach. Bydd yn esbonio sut gallwn gymryd rhan yn ein gerddi a’n mannau gwyrdd ein hunain a gwneud gwahaniaeth.

Cynhelir y sesiwn ar-lein, wedi ei chyflwyno yn Saesneg, rhwng 17.00 a 18.00 ar ddydd Mercher 13 Mawrth.

Archebwch le trwy lenwi’r ffurflen gofrestru isod. Byddwch wedyn yn cael ebost cadarnhau gyda dolen i’r weminar. Edrychwch yn eich ffolderi sothach neu sbam os nad ydych wedi derbyn hwn. Os oes unrhyw broblemau, cysylltwch a’r tîm. Ebostiwch nature@keepwalestidy.cymru

Gobeithio y gallwch ddod i’r weminar unigryw hon, a dewch i ni newid yr amgyffrediad negyddol o drychfilod!