Ymunwch â Glanhau Afonydd Sir Benfro!
Mae Cadwch Gymru’n Daclus ar genhadaeth i gadw ein hafonydd hardd yn Sir Benfro yn lân. Ac mae angen eich cymorth chi arnom.
Rydym yn cynnal digwyddiadau codi sbwriel mewn dau leoliad gwahanol ar draws afonydd hardd Sir Benfro.
Penfro: Dydd Llun 14 Hydref
Uzmaston: Wedi’i ohirio oherwydd y tywydd
Mae Glanhau Uzmaston yn daith gerdded heriol, cysylltwch os oes angen cymorth pellach arnoch.
Rydym eisiau i ymgyrch Glanhau Afonydd Sir Benfro fod mor ddidrafferth â phosibl; rydym hefyd eisiau sicrhau bod gennym ddigon o godwyr sbwriel i bawb!
Helpwch ni trwy lenwi’r ffurflen gyflym isod a rhoi gwybod i ni pa ddigwyddiadau glanhau yr hoffech ymuno â nhw.
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!
Ariennir y fenter gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn gweithio ar y cyd â Chyngor Sir Penfro i ddileu sbwriel a gwastraff. Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, Porthladd Aberdaugleddau ac Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru yn cefnogi Cadwch Gymru’n Daclus gydag ymgyrch Glanhau Afonydd Sir Benfro.