Ymunwch â ni i lanhau Bontnewydd yn ystod Glanhau Moroedd Cymru
Amser: 10.30yb – 12.00yp
Dyddiad: DyddGwener 7 Hydref 2022
Lleoliad: Caeau Chwaraeon Trecelyn ger McDonalds / Tafarn y dyfrgi ///remarked.buckets.ribcage
I ddathlu Glanhau Moroedd Cymru, helpwch ni i gadw Bontnewydd.
Dewch â’ch offer codi sbwriel eich hun, neu gallwch fenthyg cyfarpar ar y diwrnod am y bydd popeth yn cael ei ddarparu. Bydd briff diogelwch ar ddechrau’r digwyddiad glanhau hefyd. Dewch â’ch menig garddio eich hun, esgidiau synhwyrol a gwisgwch ddillad sy’n briodol i’r tywydd.
Fe sylwch ein bod wedi ychwanegu cyfeiriad what3words i wybodaeth y digwyddiad. Bydd hyn o gymorth i chi ddod o hyd i’r union fan cyfarfod ar gyfer y digwyddiad glanhau. Ewch i www.what3words.com a rhowch y cyfuniad unigryw o dri gair.
Mae’n rhaid i chi hysbysu Cadwch Gymru’n Daclus os oes gennych unrhyw broblemau iechyd sylfaenol a allai effeithio arnoch yn cymryd rhan yn y gweithgaredd. Os na fyddwch yn gallu cymryd rhan bellach, rhowch wybod i ni er mwyn i ni allu rhoi eich lle i rywun arall.
PEIDIWCH â mynychu’r digwyddiad glanhau os ydych yn teimlo’n sâl neu os ydych wedi cael prawf positif am COVID-19.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â Andrew King andrew.king@keepwalestidy.cymru