A A A

Glanhau glannau afon Rhuddlan – Glanhau Moroedd Cymru

02/10/2022 @ 09:20 - 11:30

50 o 50 tocynnau ar gael

Ymunwch â ni i lanhau glannau afon Rhuddlan Clwyd yn ystod Glanhau Moroedd Cymru.

Dyddiad: Dydd Sul 2 Hydref 2022

9.20am-11.30am

Lleoliad: Canolfan Gymunedol Rhuddlan. 5AW Stryd y Senedd, Rhuddlan, Rhyl, LL185AL ///gratuity.apparatus.wooden

I ddathlu Glanhau Moroedd Cymru, helpwch ni i lanhau glannau afon Rhuddlan Clwyd fis Hydref.

Mae’n rhaid i’r holl gyfranogwyr gofrestru ar gyfer y digwyddiad isod.  Byddwch yn derbyn ebost yn cadarnhau unwaith y byddwch chi wedi cofrestru ar gyfer y digwyddiad. Dewch â’r ebost cadarnhau gyda chi ar ddiwrnod y digwyddiad. Bydd nifer y tocynnau yn gyfyngedig yn ôl y digwyddiad.

Dewch â’ch offer codi sbwriel eich hun, neu gallwch fenthyg cyfarpar ar y diwrnod am y bydd popeth yn cael ei ddarparu. Bydd briff diogelwch ar ddechrau’r digwyddiad glanhau hefyd. Dewch â’ch menig garddio eich hun, esgidiau synhwyrol a gwisgwch ddillad sydd yn addas ar gyfer y tywydd.

Fe sylwch ein bod wedi ychwanegu cyfeiriad what3words i’r wybodaeth am y digwyddiad. Bydd hyn o gymorth i chi ddod o hyd i’r union fan cyfarfod ar gyfer y digwyddiad glanhau. Ewch i www.what3words.com a rhowch y cyfuniad unigryw o dri gair i mewn.

Wrth gofrestru ar gyfer digwyddiad Glanhau Moroedd Cymru, rydych yn cytuno i ddilyn canllawiau iechyd a diogelwch Cadwch Gymru’n Daclus sydd ar gael yma: https://keepwalestidy.cymru/caru-cymru/spring-clean-cymru-2022/planning-your-clean-up/

Mae’n rhaid i chi hysbysu Cadwch Gymru’n Daclus os oes gennych unrhyw broblemau iechyd sylfaenol a allai effeithio arnoch yn cymryd rhan yn y gweithgaredd. Os nad ydych yn gallu mynychu bellach, rhowch wybod i ni er mwyn i ni allu rhoi eich lle i rywun arall.

PEIDIWCH â mynychu’r digwyddiad glanhau os ydych yn teimlo’n sâl neu os ydych wedi cael prawf positif am COVID-19.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â Gareth Jones yn gareth.jones@keepwalestidy.cymru

Beth rydyn ni'n ei wneud gyda’ch gwybodaeth