Ymunwch â ni i lanhau traeth Porth Eirias yn ystod Glanhau Moroedd Cymru.
Amser: 5.30pm – 7.00pm
Dyddiad: Dydd Mawrth 20 Medi 2022
Lleoliad: Traeth Porth Eirias, Bae Colwyn ///asserts.pirate.until
I ddathlu Glanhau Traethau Prydain Fawr a Glanhau Moroedd Cymru, helpwch ni a’n ffrindiau yn y Gymdeithas Cadwraeth Forol i gadw traeth Porth Eirias yn edrych yn hardd fis Medi. Byddwn hefyd yn cofnodi’r hyn y byddwn yn ei ganfod gan ddefnyddio arolwg sbwriel y Gymdeithas Cadwraeth Forol, fydd o gymorth i ni gasglu tystiolaeth hanfodol yn ein brwydr yn erbyn llygredd morol.
Mae’n rhaid i’r holl gyfranogwyr gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma ar wefan y Gymdeithas Cadwraeth Forol.
Dewch â’ch offer codi sbwriel eich hun, neu gallwch fenthyg cyfarpar ar y diwrnod am y bydd popeth yn cael ei ddarparu. Bydd briff diogelwch ar ddechrau’r digwyddiad glanhau hefyd. Dewch â’ch menig garddio eich hun, esgidiau synhwyrol a gwisgwch ddillad sy’n briodol i’r tywydd.
Fe sylwch ein bod wedi ychwanegu cyfeiriad what3words i wybodaeth y digwyddiad. Bydd hyn o gymorth i chi ddod o hyd i’r union fan cyfarfod ar gyfer y digwyddiad glanhau. Ewch i www.what3words.com a rhowch y cyfuniad unigryw o dri gair.
Wrth gofrestru ar gyfer digwyddiad Glanhau Moroedd Cymru, rydych yn cytuno i ddilyn canllawiau iechyd a diogelwch Cadwch Gymru’n Daclus sydd ar gael yma: https://keepwalestidy.cymru/caru-cymru/spring-clean-cymru-2022/planning-your-clean-up/
Mae’n rhaid i chi hysbysu Cadwch Gymru’n Daclus os oes gennych unrhyw broblemau iechyd sylfaenol a allai effeithio arnoch yn cymryd rhan yn y gweithgaredd. Os na fyddwch yn gallu cymryd rhan bellach, rhowch wybod i ni er mwyn i ni allu rhoi eich lle i rywun arall.
PEIDIWCH â mynychu’r digwyddiad glanhau os ydych yn teimlo’n sâl neu os ydych wedi cael prawf positif am COVID-19.
I gofrestru ewch i https://www.mcsuk.org/beach-cleans/colwyn-bays-great-british-beach-clean-x-marine-clean-cymru-20-09-2022/
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â Guto Williams yn Guto.Williams@keepwalestidy.cymru