A A A

Glanhau traeth Llansteffan – Glanhau Moroedd Cymru

23/09/2022 @ 10:00 - 12:00

Ymunwch â ni i lanhau traeth Llansteffan yn ystod Glanhau Moroedd Cymru

Amser: 5.30pm – 7.00pm

Dyddiad: Dydd Gwener 23 Medi 2022

Lleoliad: Maes parcio Traeth Llansteffan, Sir Gaerfyrddin, ///pursue.fool.machine

I ddathlu Glanhau Traethau Prydain Fawr a Glanhau Moroedd Cymru, helpwch ni a’n ffrindiau yn y Gymdeithas Cadwraeth Forol i gadw traeth Llansteffan yn edrych yn hardd fis Medi. Byddwn hefyd yn cofnodi’r hyn y byddwn yn ei ganfod gan ddefnyddio arolwg sbwriel y Gymdeithas Cadwraeth Forol, fydd o gymorth i ni gasglu tystiolaeth hanfodol yn ein brwydr yn erbyn llygredd morol.

Mae’n rhaid i’r holl gyfranogwyr gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma ar wefan y Gymdeithas Cadwraeth Forol.

Dewch â’ch offer codi sbwriel eich hun, neu gallwch fenthyg cyfarpar ar y diwrnod am y bydd popeth yn cael ei ddarparu. Bydd briff diogelwch ar ddechrau’r digwyddiad glanhau hefyd. Dewch â’ch menig garddio eich hun, esgidiau synhwyrol a gwisgwch ddillad sy’n briodol i’r tywydd.

Fe sylwch ein bod wedi ychwanegu cyfeiriad what3words i wybodaeth y digwyddiad. Bydd hyn o gymorth i chi ddod o hyd i’r union fan cyfarfod ar gyfer y digwyddiad glanhau. Ewch i www.what3words.com a rhowch y cyfuniad unigryw o dri gair.

Wrth gofrestru ar gyfer digwyddiad Glanhau Moroedd Cymru, rydych yn cytuno i ddilyn canllawiau iechyd a diogelwch Cadwch Gymru’n Daclus sydd ar gael yma: https://keepwalestidy.cymru/caru-cymru/spring-clean-cymru-2022/planning-your-clean-up/

Mae’n rhaid i chi hysbysu Cadwch Gymru’n Daclus os oes gennych unrhyw broblemau iechyd sylfaenol a allai effeithio arnoch yn cymryd rhan yn y gweithgaredd. Os na fyddwch yn gallu cymryd rhan bellach, rhowch wybod i ni er mwyn i ni allu rhoi eich lle i rywun arall.

I gofrestru ewch i: https://www.mcsuk.org/beach-cleans/marine-clean-cymru-llansteffan-beach-clean-23-09-2022/

PEIDIWCH â mynychu’r digwyddiad glanhau os ydych yn teimlo’n sâl neu os ydych wedi cael prawf positif am COVID-19.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â Dan Snaith yn Daniel.Snaith@keepwalestidy.cymru