Mae’n rhan o Gwanwyn Glân Prydain Fawr, ymgyrch amgylcheddol fwyaf y genedl.
Y llynedd, casglodd 7,000 o #ArwyrSbwriel anhygoel dros 4,000 o fagiau o sbwriel ac ailgylchu.
Credwn fod pawb yn haeddu byw mewn cymuned lle gallant ymfalchïo ynddi ond yn ôl ffigurau’r DU, mae llai na hanner oedolion y DU (43%) ar hyn o bryd yn cytuno eu bod yn ymfalchïo yn eu cymuned.
Y newyddion da yw bod codi sbwriel yn weithred syml y gall unrhyw un ei wneud i wneud gwahaniaeth uniongyrchol a gweladwy i’w hardal.
Cofrestru digwyddiad glanhau
Os ydych yn unigolyn, yn aelwyd, yn grŵp cymunedol neu’n fusnes, cofrestru eich digwyddiad glanhau yma.
Os ydych yn ysgol, ewch i dudalen Ymgyrch Fawr i Lanhau Ysgolion.
Os hoffech ymuno â digwyddiad glanhau sydd eisoes yn cael ei gynllunio, edrychwch ar ein map. Mae hyn yn cynnwys manylion digwyddiadau glanhau sydd yn cael eu trefnu gan ein swyddogion prosiect lleol yn ogystal â digwyddiadau agored sydd yn cael eu trefnu gan grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill.