A A A

Gwarchod Glöynnod Byw

10/07/2024 @ 17:00 - 18:00

Ar-lein

Mae Cymru’n gartref i dros 40 o rywogaethau o löynnod byw a thros 1,800 o rywogaethau o wyfynod. Yn anffodus, oherwydd newid yn yr hinsawdd a’r mannau gwyrdd sydd ar gael, mae’r niferoedd hyn yn gostwng.

Mae’r glöynnod byw a’r gwyfynod hardd hynny yn eich gardd yn arwydd o amgylchedd iach ac ecosystemau iach. Dyma pam y mae’n hanfodol i gymunedau lleol ddiogelu’r creaduriaid hardd hyn a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r amgylchedd. Mae rhai rhywogaethau o wyfynod wedi cael eu canfod ledled Cymru am y tro cyntaf yn y blynyddoedd diweddar.

Ymunwch â ni ar gyfer y weminar hon sydd AM DDIM i ddysgu am warchod glöynnod byw a’r camau y gallwn eu cymryd i ddiogelu’r rhywogaethau hyn.

Bydd Alan Sumnall, Pennaeth Cadwraeth Cymru a Gogledd Iwerddon yn Gwarchod Glöynnod Byw Cymru yn ymuno â ni. Bydd yn sôn am y ffordd y gallwn gymryd rhan yn ein gerddi a’n mannau gwyrdd er budd glöynnod byw a gwyfynod ac i’w gwarchod.

Cynhelir y sesiwn ar-lein, wedi ei chyflwyno yn Saesneg, rhwng 17.00 a 18.00 ar ddydd Mercher 10 Gorffennaf.

Archebwch le trwy lenwi’r ffurflen gofrestru isod. Byddwch wedyn yn cael ebost cadarnhau gyda dolen i’r weminar. Edrychwch yn eich ffolderi sothach neu sbam os nad ydych wedi derbyn hwn. Os oes unrhyw broblemau, cysylltwch a’r tîm. Ebostiwch nature@keepwalestidy.cymru

Gobeithio y gallwch ddod i’r weminar unigryw hon, a dewch i ni ddysgu mwy am y rhywogaethau eiconig hyn!