Rydym ni’n cynnal sesiwn gloywi ar gyfer ein cymuned anhygoel o Arwyr Sbwriel.
Wedi’i gyflwyno yn Saesneg, byddwn yn darparu diweddariadau am ein gwaith, yn cyflwyno ein system adrodd newydd, eCyfrif Cymru ac yn rhedeg drwy’r holl wybodaeth bwysig am iechyd a diogelwch.
Mae’n gyfle i Arwyr Sbwriel o bob cwr o Gymru ddod at ei gilydd, rhannu eu profiadau a gofyn unrhyw gwestiynau*.
Archebwch le trwy lenwi’r ffurflen gofrestru isod a byddwn yn anfon gwahoddiad atoch i’r weminar.
*Bydd y sesiwn yn edrych ar y darlun ledled Cymru, ond byddwn yn ymdrin ag unrhyw bryderon lleol cyn gynted â phosibl ar ôl y sesiwn.