A A A

Gŵyl Ieuenctid Hinsawdd a Natur Cymru – Gwahoddiad i Weithdai

30/06/2022 - 07/07/2022

Ydych chi’n poeni am yr hinsawdd? Ydych chi’n dwlu ar natur?

Hoffwn eich gwahodd i weithdai ar draws Cymru, lle mae grwpiau bach o ddisgyblion o ysgolion uwchradd yr ardal yn dod at ei gilydd i weithio mewn gweithdai ar hinsawdd a natur.

Rydym yn annog ysgolion i ddod â 4 – 6 o ddisgyblion i’r digwyddiadau er mwyn cael y gorau o’r gweithdai.

Manylion y Gweithdai– Picnic Un Blaned

Ymunwch â ni i archwilio’r thema Picnic Un Blaned. Byddwn yn edrych ar bynciau megis:

  • O ble mae eich bwyd yn dod, pa ardaloedd yn y byd rydym yn dibynnu arnynt i ddarparu bwyd i ni a pha effaith mae hyn yn ei gael?
  • Dewch yn dditectif datgoedwigo ac archwilio sut allwch chi sicrhau bod eich bwyd yn rhydd o effeithiau datgoedwigo.
  • Byddwn hefyd yn darganfod sut y gall natur a bwyd o bosibl fod yn rhan o’r ateb.

Bydd cyfleoedd i drafod yr hyn sydd wedi’i ddysgu gyda disgyblion eraill a datblygu cwestiynau i’w rhoi i’r arbenigwyr yn y trafodaethau panel nes ymlaen yn y mis.

Lleoliadau’r Gweithdai

Wrecsam Dydd Iau 30 Mehefin 2022  9.30am – 2.30pm  

Caerdydd Dydd Mawrth 5 Gorffennaf 2022 9.30am-2.30pm

Aberystwyth Dydd Iau 7 Gorffennaf  2022   9.30am-2.30pm

Rhithiol Dydd Mercher 6 Gorffennaf 2022    9.30am – 12.30pm

Mae help ar gael ar gyfer costau trafnidiaeth. Cysylltwch â ni i drafod hyn ymhellach.

Mae arlwyo yn y lleoliad wedi’i gyfyngu i luniaeth yn unig ond mae cymorth am gost pecynnau bwyd ar gael hefyd.

Bydd cyfleoedd pellach i ddisgyblion ymgysylltu â’r ŵyl, gan gynnwys Trafodaeth Panel ar-lein gydag arbenigwyr a phobl sy’n gwneud penderfyniadau yng nghanol mis Gorffennaf (14 Gorffennaf, i’w gadarnhau), ac yn y Sioe Frenhinol Cymru ym mis Gorffennaf.

Mae rhaglen fis honno o ymgysylltiad ag ysgolion, colegau a phobl ifanc yn cael ei chynnal mewn partneriaeth â WWF Cymru, Maint Cymru, Llysgenhadon Ieuenctid Hinsawdd Cymru, Cadwch Gymru’n Daclus (Eco-Sgolion), Llenyddiaeth Cymru, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, CFfI ac Urdd Gobaith Cymru.

Gŵyl Ieuenctid Hinsawdd a Natur Cymru

Beth rydyn ni'n ei wneud gyda’ch gwybodaeth
Yn ôl i ddigwyddiadau