Hyfforddiant ar Gyfer Cydlynwyr Newydd

09/02/2023 - 25/05/2023

Ar-lein

Bydd ein hyfforddiant sefydledig a hynod boblogaidd ar gyfer cydlynwyr newydd yn cael ei gynnal yr gwanwyn hwn fel sesiwn hyfforddi rithwir dwy ran, yn rhedeg dros ddwy sesiwn cyfranogol sy’n para dwy awr yr un.

Bydd yr hyfforddiant yn ymdrin â phroses graidd Eco-Sgolion a sut i redeg y rhaglen yn effeithiol yn eich ysgol, gan gynnwys sut i ymgorffori yn y Cwricwlwm i Gymru.

Bydd digon o ysbrydoliaeth gan ysgolion ledled Cymru. Byddwn hefyd yn edrych ar sut i wneud cais am wobrau ac awgrymiadau ar gyfer cwblhau eich asesiad yn rhithiol neu wyneb yn wyneb. Bydd yr hyfforddiant yn rhyngweithiol ac yn cynnwys cyfleoedd i rannu profiadau gyda chydlynwyr eraill. Os ydych yn Gydlynydd Eco newydd neu os oes angen sesiwn diweddaru arnoch, rydym yn eich annog i ymuno â ni.

Mae sesiynau yn y Gymraeg a’r Saesneg. Edrychwch ar y dudalen digwyddiadau ar gyfer hyfforddiant penodol ar gyfer uwchradd.

Nodwch nad yw cofrestru yn creu dolen ymuno yn awtomatig, byddwch yn derbyn hwn gan un o’n staff Addysg gyda gwybodaeth bellach ar ôl archebu.

Hyfforddiant ar Gyfer Cydlynwyr Newydd

Beth rydyn ni'n ei wneud gyda’ch gwybodaeth
Yn ôl i ddigwyddiadau