Mae’r sesiwn hyfforddi cyffrous hwn yn nôl am yr ail flwyddyn ac mae wedi’i chynllunio er mwyn helpu i sicrhau bod addysgwyr yn teimlo’n gyffyrddus ac yn hyderus wrth ddatblygu a darparu profiadau dysgu sy’n gysylltiedig â Newid Hinsawdd. Bydd y cwrs yn cynnwys gweithgareddau i ddeall gwyddoniaeth Newid Hinsawdd yn ogystal â ffyrdd gafaelgar i gyflwyno’r pwnc. Byddwn hefyd yn edrych ar yr effeithiau yr ydym yn eu gweld yn lleol ac yn fyd-eang a ffyrdd i leihau ein holion traed carbon personol ac ôl traed carbon ein hysgolion. Byddwn yn darparu gweithgareddau a syniadau i’w defnyddio wrth ddysgu pobl ifanc i hyrwyddo dealltwriaeth ac ysbrydoli gweithredu cadarnhaol.
Bydd yr hyfforddiant yn cael ei rannu’n ddwy sesiwn rithwir er mwyn alluogi cyfranogwyr i gael y gorau o’r hyfforddiant.
Bydd y sesiynau i staff ysgolion Cynradd ac Uwchradd yn cael eu cynnal yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch archebu lle nawr ar gyfer dyddiadau yn yr hydref a’r gwanwyn.
Mae ein cyrsiau yn cael eu darparu am ddim a’u hwyluso gan Staff profiadol Cadwch Gymru’n Daclus. Cynhelir pob hyfforddiant rhithwir trwy Microsoft Teams.