Hyfforddiant Llythrennedd Carbon i Addysgwyr

Ar-lein

Dyma gwrs hyfforddiant ardystiedig i Addysgwyr ar unrhyw lefel.

Rydym wedi ymestyn ein hyfforddiant Newid Hinsawdd i Addysgwyr er mwyn ei wneud yn gwrs ardystiedig. Bydd y cwrs yn rhoi’r wybodaeth i chi ddeall achosion ac effeithiau newid hinsawdd yn ogystal â ffyrdd i gymryd camau gweithredu cadarnhaol. Byddwn yn edrych ar beth sy’n digwydd yn lleol yng Nghymru ac yn fyd-eang i fynd i’r afael â’r achosion ac ymdrin â’r syniadau gwyddonol diweddaraf. Byddwn yn cynnwys gweithgareddau, adnoddau a sgiliau i’ch helpu i ddysgu rhai o’r wyddoniaeth a’r cysyniadau i ddisgyblion a’u hannog i gymryd camau gweithredu cadarnhaol.

Mae’r hyfforddiant wedi’i ardystio gan yr Ymddiriedolaeth Llythrennedd Carbon, felly drwy gwblhau’r cwrs byddwch chi’n cael eich ardystio’n Garbon Llythrennog.

Bydd y cwrs yn rhedeg am ddwy sesiwn 3 awr ar-lein ac mae angen i chi wneud rhywfaint o waith  ar eich liwt eich hun rhwng y sesiynau er mwyn cwblhau tuag wyth awr o ddysgu.

Telir y gost ar gyfer ardystio ac mae’r cwrs yn rhad ac am ddim i’w fynychu.

 

Pwysig

Sylwch mai’r dewis isod yw dyddiad eich sesiwn gyntaf. Mae gan bob sesiwn ail sesiwn sy’n cydfynd, gyda dyddiad penodol. Pan fyddwch chi’n dewis eich sesiwn gyntaf rydych chi hefyd yn ymrwymo i’r sesiwn sy’n cyd-fynd â hi. Gweler yr opsiynau sydd ar gael isod.

Sesiwn Un  Sesiwn Dau Cyfrwng
06/06/23 21/06/23 Saesneg
07/06/23 22/06/23 Cymraeg

Hyfforddiant Llythrennedd Carbon i Addysgwyr

Beth rydyn ni'n ei wneud gyda’ch gwybodaeth
Yn ôl i ddigwyddiadau