Ymunwch â ni i lansio ein Hyb Codi Sbwriel newydd yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr y Parc, Tyddewi, fydd yn galluogi’r cyhoedd, grwpiau cymunedol a busnesau i gael benthyg cyfarpar codisbwriel i lanhau eu hardal leol.
Byddwn yn cyfarfod yn y clos y tu allan i Ganolfan Ymwelwyr Oriel y Parc ar Ddydd Llun 31 Ionawr o 1-3. Byddwn yn darparu’r holl offer codi sbwriel fydd ei angen arnoch, a bydd SwyddogProsiect Sir Benfro yn rhoi briff iechyd a diogelwch llawn cyn i chi ddechrau ar eich taith. Yr unig bethy bydd angen i chi ddod gyda chi yw esgidiau synhwyrol, dillad cynnes, menig a gwên fawr.
Noder, oherwydd cyfyngiadau COVID, bod yn rhaid i ni gyfyngu’r niferoedd sy’n mynychu a byddcofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn yn seiliedig ar y cyntaf i’r felin. Yn ystod y digwyddiad codisbwriel, bydd y cyfranogwyr yn cael eu rhannu’n grwpiau bach ac yn cadw pellter cymdeithasol yr holl amser.