Dewch yn Garbon Llythrennog gydag Eco-Sgolion Cymru
Dewch i wella eich dealltwriaeth a’ch effaith trwy ein rhaglen Llythrennedd Carbon ardystiedig. Y cwrs ar-lein rhyngweithiol hwn, a gafodd ei lunio’n arbennig gan Eco-Sgolion Cymru a’i gymeradwyo gan yr Ymddiriedolaeth Llythrennedd Carbon, yw eich porth i ddatgloi dyfodol cynaliadwy.
Dechreuwch ar daith oleuedig lle byddwch yn ymchwilio i gymhlethdodau newid hinsawdd. Mae’r cwrs hwn yn cyflwyno ffynhonnell gynhwysfawr o wybodaeth am achosion a chanlyniadau newid hinsawdd. Archwiliwch ffyrdd amrywiol i gataleiddio newidiadau amgylcheddol cadarnhaol.
Dewch i ddarganfod gwreiddiau newid hinsawdd ac archwilio ymdrechion byd-eang a lleol i frwydro yn erbyn ei effeithiau. Byddwch yn darganfod sut mae pobl yn lleihau eu hôl troed carbon, yma yng Nghymru a ledled y byd.
Ond mae mwy na hyn! – Rydyn ni’n eich arfogi â mwy na gwybodaeth yn unig. Gydag adnoddau a gweithgareddau difyr, byddwch yn barod i drosi’r cysyniadau gwyddonol diweddaraf yn brofiadau ystafell ddosbarth hudolus, gan annog eich disgyblion i ddod yn hyrwyddwyr newid cadarnhaol.
Y rhan orau? Rydym yn talu am gost eich tystysgrif – mae’r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i’w fynychu. Byddwch yn barod i neilltuo tua wyth awr, wedi’i rannu’n ddwy sesiwn tair awr rhithwir a segmentau dysgu hunan-gyflym.
Nodyn Atgoffa Hanfodol:
Cofiwch mai’r dyddiad rydych chi’n ei ddewis yw eich sesiwn gyntaf. Mae gan bob sesiwn gyntaf ail sesiwn sy’n gysylltiedig â dyddiad penodol. Pan fyddwch chi’n dewis eich sesiwn gyntaf, rydych chi’n ymrwymo i’r ddwy ran. Gwnewch yn siŵr eich bod yn adolygu’r opsiynau sydd ar gael isod a dewiswch yr amserlen sy’n gweithio orau i chi.
Dyma’ch cyfle i ddod yn Garbon Llythrennog ardystiedig ac ysgogi trawsnewid – i chi’ch hun, eich myfyrwyr, a’r byd o’n cwmpas. Cofrestrwch nawr, a gadewch i ni wneud cynaliadwyedd yn realiti.