Prosiect Adfer Mawndiroedd – gweithdy disgyblion (CA2)
Byddwch fwy na thebyg yn eu hadnabod yn syml fel ‘corsydd’, ond mae mawndiroedd yn gynefinoedd amrywiol sydd wedi ymffurfio dros filiynau o flynyddoedd, sy’n llawn carbon ac yn cynnal amrywiaeth toreithiog o rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid.
Yn anffodus, mae mawndiroedd ledled y Deyrnas Unedig wedi dioddef degawdau o ddirywiad hirdymor, yn bennaf oherwydd ffactorau dynol.
Yn y sesiwn hon darganfyddwch sut mae’r Prosiect Adfer Mawndiroedd yn helpu i adfer ein mawndir, a beth allwch chi ei wneud fel ysgol i helpu.