A A A

Bwystfilod Bach Gwych

11/07/2024 - 13/07/2024

Ar-lein

Dewch â’r awyr agored i’ch dosbarth! Archwiliwch Fyd Hudolus Bwystfilod Bach 

Ysgogwch eu chwilfrydedd a thaniwch gariad tuag at natur gyda’r digwyddiad cyffrous sy’n archwilio bywyd bwystfilod bach! 

Mae’r digwyddiad sydd wedi’i arwain gan Dîm Addysg Dŵr Cymru ac Eco-Sgolion Cymru yn cael ei ffrydio o Ganolfan Addysg Amgylcheddol Cilfynydd. Mae’r sesiwn yn cynnwys: 

Cyfle i archwilio bwystfilod bach: Dysgwch am nodweddion anhygoel bwystfilod  bach. 

Archwilio cynefinoedd: Dysgwch le mae bwystfilod bach yn byw a ffynnu. 

Gweithgareddau hwylus a rhyngweithiol: Cadwch ddiddordeb a chwilfrydedd eich disgyblion. 

 

Addas ar gyfer pob grŵp blwyddyn cynradd. 

Dyma gyfle gwych i ddod â dysgu awyr agored i’r dosbarth ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i fod yn angerddol dros natur! 

 

Cofrestrwch eich dosbarth heddiw gan ddefnyddio’r ffurflen isod.