Ydych chi’n barod i fynd â’ch taith Eco-Sgolion i’r lefel nesaf? Mae’n bleser gennym eich gwahodd i ddigwyddiad arbennig y Pwyllgor Eco Cenedlaethol (NEC) eleni!
Mae’r digwyddiad rhithwir sy’n digwydd ar fore Dydd Mercher 18 Hydref wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer yr Eco-Sgolion sydd wedi ennill y wobr Platinwm. Mae’r eco-bwyllgar cyfan, neu os oes well gennych, un o’ch dosbarthiadau CA2 yn cael gwahoddiad i ymuno â ni wrth i ni gynnal cwisiau rhyngweithiol a chyflwyno heriau i eco-bwyllgor eich ysgol.
Byddwn yn cyflwyno ein Heriau Platinwm newydd ar gyfer 2023/2024 yn y digwyddiad hwn. Mae’r heriau hyn yn hollol ddewisol, ac wedi’u creu i danio’ch brwdfrydedd am gynaliadwyedd ac arfogi’ch eco-bwyllgor i fynd i’r afael â materion amgylcheddol brys heddiw.
Dyma gipolwg ar deitlau heriau cyffrous eleni:
Her 1: “ Beth sy’n bod ar lysiau cam?” – Plymiwch i fyd cynaliadwyedd bwyd a dysgu sut i leihau gwastraff bwyd o’r ffynhonnell.
Her 2: “ Hen Bethau Amhrisiadwy” – Dewch i ddarganfod cyfrinachau ailgylchu dillad a dod o hyd i ffyrdd arloesol o leihau ac ailddefnyddio eitemau ffasiwn.
Her 3: “Cyfrinachau Cen” – Archwiliwch fyd swynol cen a sut mae’n gallu ein helpu i ddeall pwysigrwydd segura diangen.
Dewch i’r digwyddiad hwn i ddysgu mwy am yr heriau a darganfod yr holl wahanol ffyrdd y mae Eco-Sgolion Cymru yma i’ch cefnogi chi wrth eu cyflawni.
I fynychu’r digwyddiad arbennig hwn, llenwch y ffurflen gofrestru isod. Byddwch yn derbyn gwahoddiad a’r holl wybodaeth y bydd ei hangen arnoch i ymuno â ni.