A A A

Hyfforddiant Cydlynwyr Newydd – Uwchradd

01/10/2024 - 01/10/2024

Ar-lein

Helo Eco-Gydlynwyr!

Croeso i Hyfforddiant Cydlynwyr Newydd – gweithdy arbenigol sydd wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer athrawon Eco-Sgolion mewn Ysgolion Uwchradd.

P’un a ydych chi’n camu i’r rôl hon am y tro cyntaf neu eisiau rhaglen loywi, bydd yr hyfforddiant rhithwir hwn yn rhoi’r wybodaeth i’ch helpu i feistroli llwyddiant Eco-Sgolion yn eich ysgol. Byddwn yn edrych yn fanwl ar y rhaglen Eco-Sgolion Rhyngwladol yn ystod y sesiwn gan eich arwain drwy strategaethau i’w llywio’n effeithiol yn eich ysgol. Dewch i gael eich ysbrydoli wrth i ni ddangos sut mae cyfleoedd dysgu’r rhaglen yn alinio’n ddi-drafferth â Chwricwlwm i Gymru, gyda llawer o esiamplau go iawn o Eco-Sgolion blaengar ar draws y wlad.

Ac mae mwy! Rydym yma i’ch tywys drwy’r broses o wneud ceisiadau am wobrau a byddwn yn rhoi gwybodaeth o’r radd flaenaf i’ch helpu i ragori yn eich asesiadau Eco-Sgolion.

Mae Hyfforddiant i Gydlynwyr Newydd yn cael ei gynnal dros ddau sesiwn. Bydd pob sesiwn rhithwir yn para dwy awr ac mae ar gael yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd y sesiwn yn cael ei gynnal yn rhithwir drwy Microsoft Teams.

 

Fyddwch chi’n ymuno â ni? Cwblhewch y ffurflen gofrestru isod i dderbyn gwahoddiad i’r cyfarfod rhithwir. Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â ni drwy e-bostio Eco-Schools@keepwalestidy.cymru