A A A

Newid Hinsawdd: Dwr a Phŵer Pw

11/11/2022 @ 11:05 - 11:50

Ar-lein

Sesiwn ar y cyd rhwng Dŵr Cymru a Chadw Cymru’n Daclus. Bydd y sesiwn yn ystyried ffyrdd gallwn ni i gyd, cenedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol, ymateb i’r her newid hinsawdd.

Ar ôl sesiwn rithiol lwyddiannus i nodi COP26 ym mis Tachwedd, mae llawer o ysgolion wedi bod mewn cysylltiad i holi p’un ai rydym yn bwriadu ail-redeg y sesiwn, sy’n cael ei ddarparu ar y cyd rhwng Dŵr Cymru a Chadw Cymru’n Daclus. A dyna’n union yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud!

Ar bwynt mor dyngedfennol o amser, bydd y sesiwn yn rhoi cyfle i genedlaethau’r dyfodol – y rhai sydd yn cael eu heffeithio gan ein penderfyniadau heddiw, i adeiladu eu gwybodaeth ynghylch y rôl gall ddŵr ei chwarae mewn taclo’r mater.

Rhennir y sesiwn yn ddau. Ar ôl gosod cyd-destun, bydd athrawon secondiad Dŵr Cymru yn mynd a disgyblion ar daith byw, rhithiol – gan ddisgrifio’r broses glanhau Dŵr Gwastraff o’r pwynt lle mae gwastraff yn cyrraedd y safle hyd at y pwynt caiff ei drin trwy proses Treulio Anaerobig Uwch. Bydd y sesiwn wedi’i arwain gan y Cwricwlwm Cenedlaethol ac fe fydd yn weledol, rhyngweithiol – ac yn rhwydd i’w ddeall ar gyfer disgyblion.

Yn yr ail ran, bydd y ddau fudiad yn herio’r disgyblion i ystyried eu cynllun gweithredu eu hunain i helpu’r ysgol a’u teulu i fod yn fwy effeithlon o ran dŵr. O ystyried yr egni a ddefnyddir wrth droi’r tap ymlaen a’r rôl mae defnydd dwr yn gallu chwarae i leihau effaith newid hinsawdd, gall newidiadau bach mewn arferion wneud gwahaniaeth mawr.

Bydd y sesiwn yn rhoi achos i feddwl i’r disgyblion, annog sgyrsiau dros y bwrdd bwyd yn y cartref, ac annog disgyblion a’u rhieni i ystyried eu defnydd dwr wrth iddynt droi’r tap ymlaen.

Noder: Mae’r sesiwn yma’n cael ei ail-adrodd, ar ôl cynnal yn wreiddiol ym mis Tachwedd 2021.

9.30-10.15 11.11.22 – Saesneg

11.05 – 11.50 11.11.22 – Cymraeg

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal drwy Microsoft Teams

Dwr a Phŵer Pw

Beth rydyn ni'n ei wneud gyda’ch gwybodaeth