Dianc o’r dosbarth a chynnal eich gwersi yn yr awyr agored gyda gweithdy byw a rhyngweithiol Eco-Sgolion Cymru.
Ymunwch â ni’r tymor hwn wrth i ni ymchwilio i fydoedd micro! Byddwn yn edrych ar y ffyngau, mwsoglau a chennau gwych o amgylch tiroedd ein hysgolion gan ddysgu sut maen nhw’n gallu helpu i achub y blaned. Mae’r hydref yn amser perffaith i archwilio’r arwyr hyn o fyd natur.
Bydd y sesiwn rhithwir byw yn cael ei gynnal gan ein swyddogion addysg ac mae’n annog disgyblion i gymryd rhan a phrofi eu gwybodaeth gyda chwisiau rhyngweithiol. Bydd y sesiwn yn rhoi hyder i athrawon mynd â’r dysgu allan i’r awyr agored wrth i swyddogion rannu gweithgareddau cyfoethogi awyr agored er mwyn dyfnhau dealltwriaeth y dosbarth o’n bydoedd micro hudol.
Mae dysgu yn yr awyr agored wedi’i brofi i wella ymgysylltiad, gwella creadigrwydd a bod o fudd i iechyd meddwl. Cofrestrwch heddiw i ddatgloi potensial llawn dysgu yn yr awyr agored i’ch dosbarth.
Bydd y sesiwn yn cael ei gynnal yn y bore drwy Microsoft Teams. Byddwch yn derbyn dolen i’r cyfarfod rhithwir yn agosach at ddyddiad y digwyddiad.
Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld chi yno!