Wrth wynebu’r argyfwng tlodi bwyd, mae ‘partneriaethau bwyd cynaliadwy’ newydd yn dod i’r amlwg ledled Cymru. Mae cyrff cyhoeddus, elusennau, busnesau, ffermwyr, a sefydliadau eraill yn dod ynghyd i wella mynediad at fwyd iach, fforddiadwy.
Y weminar hon yw eich cyfle i ganfod mwy am bartneriaethau bwyd cynaliadwy, sut maent yn gweithio a sut gallwch gymryd rhan yn eich ardal leol.
Bydd Pearl, Rhiannon a Chloe yn Synnwyr Bwyd Cymru yn ymuno â chi ac yn sôn am y gwaith y maent yn ei wneud i gysylltu pobl a phrosiectau, a sicrhau bod bwyd yn cael ei gynhyrchu a’i fwyta mewn ffordd sy’n dda i gymunedau a’r amgylchedd.
Cynhelir y sesiwn ar-lein, wedi ei chyflwyno yn Saesneg, rhwng 17.00 a 18.00 ar ddydd Mercher 14 Chwefror.
Archebwch le trwy lenwi’r ffurflen gofrestru isod. Byddwch wedyn yn cael ebost cadarnhau gyda dolen i’r weminar. Edrychwch yn eich ffolderi sothach neu sbam os nad ydych wedi derbyn hwn. Os oes unrhyw broblemau, cysylltwch a’r tîm. Ebostiwch nature@keepwalestidy.cymru